Abertawe yn arwyddo Ki Sung-Yueng

Ki Sung-Yueng Image copyright Getty Images

Mae Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol cae rhyngwladol De Corea Ki Sung Yung am £6 miliwn o Celtic. .

Hwn yw'r ffi fwyaf erioed i'r Elyrch ei dalu am chwaraewr.

Bydd angen i Abertawe sicrhau trwydded waith i'r chwaraewr 23 oed.

"Pan dwi'n gweld Abertawe dwi'n weld clwb sy'n tyfu. Mae'r dull o chwarae yn ddeniadol iawn.

"Rwy'n meddwl y gallaf wella fel chwaraewr yma a helpu'r clwb ddatblygu."

Dywedodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup fod Ki yn chwaraewr pwysig i'w gael yng nghanol y cae.

"Fe aeth Joe Allen i Lerpwl felly mae'n bwysig cryfhau'r garfan.

Cyn arwyddo Ki, £3.5 m oedd y mwyaf i Abertawe ei dalu am chwaraewr a hynny am Danny Graham y llynedd.