Wrecsam 0-0 Grimsby
- Published
Fe wnaeth gôl geidwad Grimsby Ian McKeown arbed yn wych i rwystro Wrecsam rhag sicrhau eu hail fuddugoliaeth y tymor hwn.
Fe wnaeth McKeown roi ei gorff o flaen peniad amddiffynnwr Wrecsam Chris Westwood o bedwar llath ar ôl 60 munud.
Ar ôl hynny fe wnaeth Mckeown arbed o ergyd Rob Ogelby o 18 llath yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer anafiadau.
Roedd yna fawr o gyffro yn yr hanner cyntaf.
Cafodd Jay Harris o Wrecsam ei anfon o'r cae tua diwedd y gêm.