Pryder am gytundeb cwmni trenau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r blaid Lafur wedi galw ar Lywodraeth Prydain i oedi cyn arwyddo cytundeb newydd sy'n cynnwys gwasanaethau trên rhwng Llundain a gogledd Cymru.

O fis Rhagfyr, First Group fydd yn gyfrifol am linell reilffordd fwyaf prysur Prydain, ar ôl i gwmni Virgin golli'r cytundeb.

Dywed y r Blaid Lafur a Syr Richard Branson, pennaeth Virgin, fod angen trafod y mater yn Nhŷ'r Cyffredin cyn arwyddo'r cytundeb.

Mae Frist Group yn dweud y byddant yn gwella'r gwasanaeth, ond mae beirniaid yn dweud eu bod yn poeni na fydd y cwmni yn gallu talu'r £5.5 ar gyfer y cytundeb.

Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud fod y broses o gynnig am y cytundeb newydd wedi bod yn un teg.