Y glaw yn dod â gêm Morgannwg i ben yn erbyn Sir Nottingham
- Published
image copyrightGetty Images
Oherwydd y glaw bu'n rhaid atal gêm olaf Morgannwg yng Nghystadleuaeth 40 pelawd nos Lun yn erbyn Sir Nottingham yn Trent Bridge.
Rhannodd y ddau dîm y pwyntiau wrth i'r gêm ddod i ben heb ganlyniad.
Roedd y tîm cartref wedi sgorio 264 am 6 mewn 40 pelawd.
O chwe rhediad methodd Alex Hales a chyrraedd y 100 ar ôl taro saith pedwar a thri chwech.
Gyda Neil Edwards, cafodd y ddau 114 ar y wiced gyntaf.
Ildiodd James Harris, a fydd efallai yn gadael Morgannwg i ymuno â Sir Nottingham, 60 o wyth pelawd a methu dau ddaliad.
Fe wnaeth y glaw ohirio cychwyn Morgannwg i fatio ac fe osodwyd targed o 257 o 38 pelawd.
Ond daeth mwy o law a bu'n rhaid i'r ymwelwyr roi'r gorau i'r gêm ar 20-0.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol