BBC Cymru Fyw

Casnewydd 2-0 Henffordd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Casnewydd 2-0 Henffordd

Mae Casnewydd yn dal i fod ar frig Uwchgynghrair Blue Square ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Henffordd.

Maen nhw ennill bob un o'u 5 gêm hyd yma, gan gynnwys tair yn eu cartref newydd ar gyfer y tymor, Rodney Parade.

Roedd dros 4,000 yn gwylio'r ddrama wrth i'r Alltudion yn curo Henffordd, un o'r timau a oedd yn gobeithio ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth gôl-geidwad Casnewydd, Lenny Pidgeley, arbed cic o'r smotyn Harru Pell yn yr hanner cyntaf cyn i reolwr y tîm cartref, Justin Edinburgh gael ei anfon i'r eisteddle am gicio'r bêl i ffwrdd.

Andy Sandell roddodd y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd 25 llall i gornel ucha'r gôl wedi 75 munud.

Fe wnaeth Aaron O'Connor rwydo wedi pas hwyr gan Danny Crow i roi Casnewydd ymhellach ar y blaen wedi 90 munud, er i 8 munud o amser ychwanegol gael ei chwarae.

Straeon perthnasol

  • Wrecsam 3-1 Woking