Pedwerydd diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Paralympaidd
- Cyhoeddwyd
Nifer o Gymry yn cystadlu mewn amryw o gampau ar bedwerydd diwrnod y Gemau Paralympaidd yn Llundain.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.
ATHLETAU:
Roedd tri o Gymru yn cystadlu yn y Stadiwm Olympaidd mewn gwahanol gystadlaethau. Ac roedd 'na fedal Aur wrth i Aled Sion Davies ennill cystadleuaeth taflu'r ddisgen (F42). Ei dafliad o 46.41m oedd y gorau. Dyma gemau cyntaf Aled.
Cafodd Jenny McLoughlin ei hamser gorau o 14.48 eiliad yn rhag ras y 100m (T37). Yn y rownd derfynol fe wnaeth orffen yn yr un amser a hynny yn seithfed.
Methodd capten tîm athletau Paralympaidd Prydain, Tracy Hinton i sicrhau ei lle yn y rownd derfynol y 200m (T11).Daeth yn drydydd yn ei rhagras mewn amser o 27.38 eiliad.
PÊL-DROED:
Gêm gyfartal gafodd dynion Prydain 0-0 yn erbyn Yr Ariannin mewn gêm ragbrofol. Yn y tîm y mae Darren Harris a Keryn Seal.
TENIS BWRDD:
Os ydi'r pump o Gymru wedi bod yn llwyddiannus fe fyddan nhw'n cystadlu ddydd Sul am fedalau. Y pump yw Rob Davies; Paul Davies; Sara Head; Scott Robertson a Paul Karabardak.
BOCCA:
Roedd Jacob Thomas yn cystadlu mewn pâr ar gyfer y gystadleuaeth.
HWYLIO:
Wedi ail ddiwrnod o hwylio mae Stephen Thomas sy'n cystadlu yn ras hwylio sonar yn bedwerydd. Mae'n cystadlu mewn cwch o dri.
RHWYFO:
Pedwerydd oedd Samantha Scowen yn rownd derfynol y sgwl dwbl gyda Nicholas Beighton mewn amser o 4 munud 05.77 eiliad. Xiaoxian Lou a Tianming Fei o China oedd yn fuddugol mewn 3 munud 57.63 eiliad. Daeth Perle Bouge a Stephane Tardieu o Ffrainc yn ail (4 munud 03.06 eiliad) a Oksana Masters a Rob Jones o America yn drydydd (4 munud 05.56 eiliad)
NOFIO:
Roedd Rhiannon Henry yn y pwll yn y ras 100m dull rhydd (S13). Roedd hi'n ail yn ei rhagras gydag amser o 1 munud 01.87 eiliad. Daeth yn bedwerydd yn y rownd derfynol gydag amser o 1 munud 02.00 eiliad. Kelley Becherer o America enillodd yr Aur mewn 59.56 eiliad. Valerie Grand-Maison o Ganada oedd yn ail gydag amser o 1 munud 00.07 eiliad a Rebecca Anne Meyers o America yn drydydd mewn 1 munud 01.90 eiliad.
PÊL-FOLI EISTEDD:
Roedd Sam Scott a James Roberts yn cystadlu yn nhîm Prydain yn erbyn Morocco. Enillodd Prydain o 3-0.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2012
- 27 Awst 2012
- 27 Awst 2012
- 24 Awst 2012
- 10 Gorffennaf 2012