100 yn colli gwaith wrth i gasino gau yn Abertawe

Casino graphic
Image caption Pan agorodd y casino yn 2007 roedd y perchnogion yn gobeithio denu 10,000 yr wythnos

Mae cwmni Aspers wedi dweud eu bod yn cau eu casino yn Abertawe a bod 100 yn colli eu gwaith.

Mae'r busnes, sy'n werth £13 m, wedi bod ers pum mlynedd yn Wind Street yng nghanol y ddinas .

Pan agorodd y casino yn 2007 roedd y perchnogion yn gobeithio denu 10,000 yr wythnos.

Daeth y penderfyniad i gau ar ôl cyfnod ymgynghori 90 diwrnod.

"Gallwn gadarnhau y bydd y busnes yn cau ei ddrysau am y tro olaf am hanner nos nos Iau," meddai llefarydd.

Roedd Abertawe yn un o wyth dinas yn y Deyrnas Unedig gafodd drwydded ar gyfer casino bach o dan ddeddfwriaeth newydd ddaeth i rym yn 2005.

Ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori roedd y cwmni wedi dweud y bydden nhw'n gwneud cais am y drwydded newydd fyddai'n caniatáu iddyn nhw "gynnig mwy i gwsmeriaid".

Ond dyw'r drwydded ddim eto wedi cael ei rhoi allan i dendr.

Mae'r cwmni wedi dweud bod cyflwr yr economi wedi effeithio ar y busnes.

Straeon perthnasol