Disgwyl i gyngor Conwy atal rhyddhau balŵns
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gyngor Conwy i wahardd rhyddhau balŵns ar raddfa eang i'r awyr, ar ôl i un o'i bwyllgorau gytuno ar yr argymhelliad.
Yn ôl adroddiad gan swyddogion mae modd i'r balŵns niweidio bywyd gwyllt a bywyd morol pan maen nhw'n syrthio i'r llawr neu'n byrstio.
Roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r gwaharddiad a fydd yn effeithio ar yr holl dir sy'n eiddo i'r cyngor.
Petai'r cyngor llawn yn cymeradwyo'r syniad yr wythnos nesaf, hwn fyddai'r cyngor sir cyntaf i gyflwyno gwaharddiad yng Nghymru.
Yn ôl yr adroddiad, fe fyddai'r gwaharddiad yn "cyflawni dyletswydd statudol yr awdurdod lleol dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, 1990, i sicrhau nad oes ysbwriel mewn gofodau agored gwyrdd".
Gwastraff balŵns
Mae gwaith ymchwil ar ran y cyngor wedi dod i'r casgliad bod effaith amgylcheddol ysbwriel balŵns "yn ffurf ddifrifol o lygru".
"Amcangyfrifodd adroddiad Beachwatch yn 2007 bod oddeutu 8 i 9 balŵn ar bob cilomedr sgwâr o draeth ym Mhrydain a bod nifer y balŵns a gaiff eu rhyddhau wedi treblu dros 10 mlynedd," meddai'r adroddiad.
Mae nifer o gyrff o blaid y gwaharddiad gan gynnwys y Gymdeithas Gadwraeth Forol, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Grŵp Prydain Daclus ac Undeb Amaethyddol yr NFU.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymgyrch Cadw Cymru'n Daclus eu bod wedi anfon deiseb ar y cyd gyda'r Gymdeithas Gadwraeth Forol i'r Cynulliad yn galw am waharddiad drwy Gymru.
"Mae John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd, wedi cysylltu'n ôl i ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio, ac os oes digon o dystiolaeth y byddan nhw'n cymryd camau i gyflwyno gwaharddiad."
"Mae Ymgyrch Cadw Cymru'n Daclus yn ymgyrchu i annog pobl i beidio rhyddhau balŵns a llusernau papur a chodi ymwybyddiaeth, drwy arwyddo addewid i warchod yr amgylchedd."
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2011
- 1 Rhagfyr 2010
- 20 Awst 2009