7% o gynnydd i Admiral
- Published
image copyrightOther
Mae cwmni Admiral wedi cyhoeddi cynnydd o 7% mewn elw am chwe mis cyntaf 2012.
Dywed y cwmni yswiriant sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd fod y canlyniadau yn well na'r disgwyl ac yn golygu elw cyn treth o £171.8m yn hytrach na'r £167.7m roedd y marchnadoedd ariannol yn ei ddisgwyl.
Mae admiral, sydd hefyd a swyddfeydd yn Abertawe a Chasnewydd, yn cyflogi tua 5,500 o bobl.
Mae'r cwmni yn berchen ar Diamond, Confused.com a Elephant.co.uk a chredir bod y busnes yn gyfrifol am yswiriant un o bob 10 o geir ar lonydd Prydain.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Mawrth 2012
- Published
- 7 Ionawr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol