Carchar am daro seiclwr Paralympaidd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei garcharu am gyfanswm o 18 mis a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd wedi iddo daro'r seiclwr Paralympaidd Simon Richardson.
Roedd Edward Adams, ffermwr 61 oed o'r Bontfaen, wedi yfed dwywaith y lefel gyfreithiol o alcohol.
Cafodd Mr Richardson, a enillodd ddwy fedal aur ac un arian yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008, ei anafu'n ddifrifol pan gafodd ei daro ar yr A48 ger Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst y llynedd.
Roedd y seiclwr yn ymarfer ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain ac wedi teithio 250 milltir ar lonydd cefn gwlad yr wythnos honno.
Er bod Adams wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru a pheidio ag aros ar ôl damwain, mewn gwrandawiad blaenorol roedd wedi gwadu cyhuddiad o yrru'n beryglus.
Golwg mor wael
Yn gynharach yn y mis fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd a glywodd fod ei olwg mor wael fel nad oedd yn medru darllen rhif cofrestru car 4 metr i ffwrdd.
Clywodd y llys hefyd fod Adams wedi ceisio cuddio'i gar Peugeot yn dilyn y gwrthdrawiad.
Simon Richardson daniodd y Fflam Baralympaidd yng Nghaerdydd yn gynharach yn yr wythnos ond dywedodd na fyddai hynny'n ddigon i anghofio siom methu â chystadlu yn y gemau yn Llundain.
Cafodd Adams ei ddedfrydu i bymtheg mis dan glo am yrru'n beryglus a thri mis yn ychwanegol am beidio ag aros wedi'r gwrthdrawiad.
Fe gafodd ddedfryd o dri mis o garchar am yfed a gyrru ond bydd honno'n cyd-redeg gyda'r dedfrydau eraill.
'Rhyddhad'
Mewn datganiad ar ddiwedd yr achos, dywedodd Simon Richardson:
"Ar ddiwedd proses hir, mae'n rhyddhad bod yr achos yn erbyn y gyrrwr Edward Adams, wedi dod i ben.
"Fy mwriad gydol yr achos oedd sicrhau bod cynsail gan feicwyr sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau yn y dyfodol i seilio achosion yn erbyn gyrwyr peryglus.
"Mae gen i broblemau iechyd sylweddol i'w goresgyn o hyd yn dilyn y gwrthdrawiad, gan gynnwys llawdriniaeth ar fy nghefn.
"Rwy'n bwriadu brwydro fy ffordd yn ôl i'r lefel uchaf o chwaraeon pa fyddaf wedi gwella'n llawn.
"Roedd yn anrhydedd fawr i mi gynnau'r crochan yng Nghaerdydd ddydd Mawrth ac i gario'r Fflam yn Llundain ddoe, ac fe fyddaf yn cefnogi athletwyr Paralympaidd Prydain i'r carn yn ystod y Gemau yn Llundain 2012."
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2012
- 7 Rhagfyr 2011
- 29 Tachwedd 2011
- 18 Awst 2011
- 17 Awst 2011