Perfformiad theatr mewn coedwig

Gareth Aled Image copyright Joel Fildes / National Theatre Wales

Bydd cynhyrchiad olaf National Theatre Wales yn 2012 yn cael ei pherfformio mewn coedwig yn Sir y Fflint.

Mae'r sioe, Branches: The Nature of Crisis, yn cyfuno dawns a theatr ac yn defnyddio tirwedd Parc Gwepra fel rhan o'r perfformiad.

Mae wedi ei chreu gan Constanza Macras, coreograffydd a chyfarwyddwr sy'n dod yn wreiddiol o'r Ariannin.

Teithiodd Ms Macras o amgylch Cymru gan ymweld â gwahanol goedwigoedd cyn dewis Parc Gwepra.

Dywedodd bod y lleoliad yn "berffaith" ar gyfer y perfformiad.

Mae'r sioe yn cymryd ysbrydoliaeth o rai o straeon y Mabinogi a hefyd yn defnyddio straeon o'r argyfwng economaidd ryngwladol diweddar.

'Profiad gwahanol'

Bydd 12 o berfformwyr yn cymryd rhan, chwech o Gymru a chwech o weddill y byd.

Un o'r rhai fydd yn perfformio yw Gareth Aled sy'n wreiddiol o Ddinbych.

"Rydyn ni wedi creu profiad, profiad andros o wahanol i eistedd mewn theatr i weld drama," meddai.

Image copyright Joel Fildes / National Theatre Wales

"Mae'r gynulleidfa yn dechrau o'r Ganolfan Ymwelwyr yna'n dilyn y perfformwyr yn y goedwig, neu bydd y perfformwyr yn eu dilyn nhw, am ddwy awr.

"Rydyn ni'n trio neud y perfformiad yn brofiad cynhyrfus, fel parti swrrealaidd yn y goedwig."

Dywedodd nad oedd wedi cymryd rhan mewn perfformiad tebyg o'r blaen.

"Mae'n brofiad gwych i actor," meddai.

Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac mae wedi gweithio yn Llundain a Stratford.

Dyma'r tro cyntaf iddo weithio yn y gogledd.

"Dwi'n falch o gael y cyfle," meddai.

Y perfformwyr eraill o Gymru yw Rosalind Haf Brooks, Catriona James, Adanna Oji, Jem Treays a Lara Ward.

Yn ogystal â'r perfformiad ym Mharc Gwepra bydd darllediad rhyngweithiol digidol ar stryd fawr yng Nghaerdydd.

Bydd delweddau o'r goedwig yn ymddangos ar fyrddau hysbysebu enfawr yng nghanol y ddinas.

Mae'r perfformiadau ar Fedi 5-8 a Medi 12-15 2012.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.