Noone yn symud o Brighton i Gaerdydd

Published
image copyrightGetty Images
image captionSgoriodd 11 o goliau mewn 60 o gemau i Brighton, Plymouth a Chaerwysg

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r asgellwr Craig Noone o Brighton ar gytundeb pedair blynedd.

Credir bod Caerdydd wedi talu £1 miliwn am Noone a fe yw'r nawfed chwaraewr i ymuno gyda chlwb y brifddinas dros yr haf.

Dechreuodd Noone, 24 oed o Lerpwl yn wreiddiol, gyda Plymouth Argyle cyn symud i Brighton am £300,000 yn Ionawr 2011.

Sgoriodd 11 o goliau mewn 60 o gemau i Brighton, Plymouth a Chaerwysg ac mae disgwyl iddo fod yn nhîm Caerdydd am y tro cyntaf yn erbyn Wolverhampton Wanderers ddydd Sul.

Eisoes mae Caerdydd wedi arwyddo Craig Bellamy, Tommy Smith, Heidar Helguson, Matthew Connolly, Joe Lewis, Jordan Mutch, Kin Bo-Kyung ac Etien Velikonja yn ystod ffenest drosglwyddo yr haf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol