Gweithwyr undeb y PCS ar streic am dair awr eto
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr y DVLA a Gwylwyr y Glannau ar streic brynhawn Gwener oherwydd anghydfod am golli swyddi, cyflogau, preifateiddio a chau swyddfeydd.
Bydd y streic Brydeinig yn para am dair awr.
Staff y pencadlys yn Abertawe â rhai swyddfeydd Bangor a Chaerdydd - sydd o dan fygythiad - fydd yn gweithredu'n ddiwydiannol.
Bydd gweithwyr nos y DVLA yn cerdded allan.
Ar Fedi 13 bydd aelodau undeb y PCS yn streicio am ddiwrnod cyfan.
"Hwn yw'r pedwerydd tro mae gweithwyr y DVLA ar streic ers dechrau mis Mehefin," meddai cynrychiolydd yr undeb yn y DVLA, Dave Warren, wrth gyfeirio at weithredu diwydiannol dydd Gwener.
"Dydyn ni ddim yn mynd ar streic ar chwarae bach ond mae 'na broblemau dwys yn wynebu ein gweithwyr ac mae angen ymateb difrifol.
"Rydym yn benderfynol o wrthod preifateiddio, cwtogi swyddi a bygythiad i'n telerau."
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2012
- 4 Gorffennaf 2012
- 30 Mai 2012
- 3 Mai 2012
- 13 Rhagfyr 2011
- 25 Chwefror 2012
- 15 Awst 2011