BBC Cymru Fyw

Cofnodi marwolaeth ddamweiniol ar fachgen 14 oed

Published
image captionRoedd y ddamwain yn Chwarel Cilyrychen ger Llandybie
Mae rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol wedi ei chofnodi yng nghwest bachgen 14 oed.
Roedd Luke Somerfield o Ffairfach ger Llandeilo wedi mynd i drafferthion yn Chwarel Cilyrychen ger Llandybie yn Sir Gâr a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mehefin.
Ei ffrind 14 oed, Warren Jachter, geisiodd ei achub wedi i'r ddau neidio i mewn i ddŵr rhewllyd ond roedd Luke yn tynnu ei ffrind o dan wyneb y dŵr.
Penderfynodd Warren ffonio 999.
"O'n i'n meddwl ei fod yn gallu nofio ond roedd yn amlwg nad o'dd e," meddai fore Gwener.
Clywodd y cwest yn Neuadd y Dre', Llanelli, fod y Cwnstabl Robert Lang a'r Cwnstabl Alan Morgan wedi neidio i mewn i'r llyn yn y chwarel.
Deifiodd y Cwnstabl Morgan 15 troedfedd a sylwi bod corff Luke yn sownd yn rhaff cylch achub bywyd.
Aed â'r bachgen i Ysbyty Treforys mewn hofrennydd. Am gyfnod fe gafodd ei adfywio cyn marw yn y nos.
Yn y cwest canmolodd Crwner Sir Gâr, Mark Leighton, ddewrder y ddau gwnstabl.

Straeon perthnasol

  • Ymchwiliad wedi marwolaeth bachgen 14 oed mewn chwarel