Tirlenwi: 54% yn llai o wastraff
- Published
Yng Nghymru mae 54% yn llai o wastraff dinesig bioddiraddadwy wedi cael ei anfon i safleoedd tirlenwi ers saith mlynedd.
Cyhoeddwyd y manylion yn adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd am Gynllun Lwfansau Tirlenwi Cymru.
Anfonodd awdurdodau lleol 389,738 tunnell o wastraff dinesig bioddiraddadwy i safleoedd tirlenwi, 29% yn llai na lwfans lwfans 2011-12, 550,000 tunnell.
Yn ôl yr asiantaeth, mae hyn "yn dangos yn eglur fod gwaith awdurdodau lleol er mwyn lleihau faint o wastraff bioddiraddadwy sy'n cael ei annfon i safleoedd tirlenwi yn llwyddo".
Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot a Phowys ddefnyddiodd y gyfran leiaf o'u lwfansau (dim mwy na 70%).
Cyngor Torfaen ddefnyddiodd y gyfran fwyaf, sef 99%.
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Mae anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi hefyd yn helpu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
"Gall nwy methan o wastraff dinesig bioddiraddadwy mewn safleoedd tirlenwi fod hyd at 25 gwaith yn waeth na deuocsid carbon."
'Gwych'
Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn newyddion gwych.
"Llongyfarchiadau i gynghorau Cymru ac i'r preswylwyr am eu holl waith caled a'u hymdrechion yn didoli deunyddiau ailgylchadwy defnyddiol fel bod llai o wastraff yn cael ei gludo i safleoedd tirlenwi.
"Mae'r ffigurau'n dangos bod y cynghorau yn gwneud gwaith gwych yn newid y ffordd y maent yn delio â'n gwastraff.
"Dyw claddu ein sbwriel yn y ddaear a'i adael i bydru ddim yn opsiwn.
"Mae'n gwastraffu tir prin ac yn niweidio ein hamgylchedd ac felly, mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i geisio cyrraedd targedau'r Undeb Ewropeaidd hyd at 2020."
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mawrth 2012
- Published
- 10 Awst 2010
- Published
- 6 Awst 2010
- Published
- 21 Mehefin 2010