Ymgyrch i atal dwyn metel
- Cyhoeddwyd

Bydd pedwar heddlu Cymru ynghyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cydweithio ar gynllun newydd i atal troseddau o ddwyn metel.
Dros y blynyddoedd diweddar, bu cynnydd mawr mewn lladradau o'r fath.
Bydd yr ymgyrch newydd - Operation Tornado - yn gweithio gyda chwmnïau sy'n prynu a gwerthu metel sgrap.
Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd metel ei ddwyn o do ysgol yn Rhondda Cynon Taf, ac yn y gorffennol mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi rhybuddio am beryglon dwyn metel o reilffyrdd.
Nod Operation Tornado yw sicrhau bod pobl sy'n ceisio gwerthu metel i gwmnïau yn gorfod dangos llun adnabod.
Mae'n un o nifer o fesurau i gyfyngu ar werthiant metel sydd wedi ei ddwyn.
Haneru
Mewn cynllun peilot yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, llwyddwyd i haneru nifer y troseddau yn yr ardal ar gyfartaledd.
Cafodd y cynllun ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Ailgylchu Metel Prydain, Cymdeithas Prif Gwnstabliaid Prydain, y Swyddfa Gartref, a Heddluoedd Durham, Northumbria a Cleveland.
Yn dilyn y cynllun peilot, mae'r ymgyrch yn cael ei ehangu i weddill Prydain ddydd Sadwrn.
Mae'r trefnwyr yn pwysleisio nad eu bwriad yw gwahardd masnachwyr sy'n rhedeg busnes cyfreithlon, ond i adnabod ac erlyn y rhai sy'n gweithredu y tu allan i'r gyfraith.
Eisoes mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhybuddio bod y gost o drwsio difrod sy'n cael ei achosi gan ladron metel yn rhoi straen ar eu cyllidebau.
Yn aml, adeiladau cyhoeddus megis ysgolion neu eglwysi sy'n cael eu targedu gan y lladron wrth i bris metel ar draws y byd gyrraedd ei lefel uchaf ers blynyddoedd.
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2012
- 21 Awst 2012
- 3 Gorffennaf 2012
- 15 Ebrill 2012
- 8 Mawrth 2012
- 22 Chwefror 2012
- 22 Rhagfyr 2011
- 11 Tachwedd 2011