BBC Cymru Fyw

Y Pro 12: Gwledd gan y Scarlets

Published
image captionStryffaglu i atal George North

Scarlets 45-20 Leinster

Roedd hon yn fuddugoliaeth nodedig i'r Scarlets, gan guro pencampwyr Ewrop ac ennill pwynt bonws wrth wneud.

Roedd y Scarlets 14-6 ar y blaen ar yr egwyl wedi ceisiau gan Scott Williams a seren y gêm Liam Williams.

Roedd y tîm cartref yn danllyd yn yr ail hanner gyda'r asgellwyr George North ac Andy Fenby yn croesi am geisiau.

Croesodd Devin Toner am gais i'r ymwelwyr cyn i Kieran Murphy, North a Fenby danlinellu goruchafiaeth y Scarlets cyn cais cysur hwyr Ian Madigan.

Trosodd Aled Thomas deirgwaith a Rhys Priestland (yn ei ganfed gêm dros y rhanbarth) ddwywaith.

Dechrau delfrydol i'r prif hyfforddwr newydd Simon Easterby.

Connacht 9-13 Gleision Caerdydd

Dechreuodd Gleision Caerdydd eu cyfnod o dan arweiniad eu cyfarwyddwr rygbi newydd Phil Davies gyda buddugoliaeth dros Connacht yn Galway.

Fe wnaeth yr ymwelwyr y mwyaf o gael y gwynt yn eu cefnau yn yr hanner cyntaf gan arwain 13-0 ar yr egwyl.

Sgoriodd y mewnwr Lewis Jones gais wedi 30 munud, gyda Ceri Sweeney yn ychwanegu trosiad a thair cic gosb.

Ymatebodd y Gwyddelod gyda thair cic gosb gan Miah Nikora yn yr ail hanner ond methon nhw â chael cais.

Dreigiau 37-6 Zebre

Gydag ymadawiad Aironi, mae enw newydd ymysg y clybiau yng nghynghrair RaboDirect Pro 12 y tymor hwn, ac eisoes mae'n argoeli i fod yn dymor anodd i'r Zebre.

image copyrightHuw Evans picture agency
image captionDan Evans yn croesi am un o'i ddau gais yn erbyn Zebre

Taith i Rodney Parade oedd yn wynebu'r newydd ddyfodiaid yn eu gêm gyntaf ar y lefel yma, ac fe gawson nhw gweir gan y Dreigiau.

Daeth y sgorio i gyd bron yn yr hanner cyntaf gyda'r Dreigiau yn croesi am bedawr cais gan Andy Tuilagi, Will Harries a dau gan Dan Evans, gyda Tom Prydie yn trosi'r cyfan ac ychwanegu dwy gôl gosb.

Daeth gôl adlam i Steffan Jones hefyd gyda'r unig ymateb gan yr Eidalwyr ar ffurf dwy gôl gosb gan Luciano Orquera.

Treviso 12-6 Gweilch

Buddugoliaeth a phwynt bonws i ddechrau'r tymor i'r Dreigiau felly, ond roedd siom i'r Gweilch yn erbyn y tîm arall o'r Eidal.

Roedd y Gweilch ar daith i wynebu Treviso, ond brwydr gicio a gafwyd yn y Stadio Comunale di Monigo, a'r tîm cartref oedd yn fuddugol.

Y cefnwr Kris Burton giciodd bedair gôl gosb i Treviso, a dim ond dwy gan Dan Biggar oedd ymateb y Gweilch.

Yn y gêm arall a chwaraewyd nos Wener, roedd buddugoliaeth i Ulster dros Glasgow o 18-10 yn Ravenhill.

Straeon perthnasol

  • Scarlets yn arwyddo'r clo Jake Ball