Medal aur i Aled Siôn Davies
- Published
Mae Aled Siôn Davies wedi ennill medal aur yn rownd derfynol taflu'r ddisgen yn Llundain ddydd Sul, yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf.
O flaen teulu, ffrindiau ac 80,000 o wylwyr yn y stadiwm Olympaidd, fe enillodd e fedal aur a thaflu record Ewropeaidd ar yr un pryd.
Roedd tafliad y dyn 21 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn 46.14 metr, gan guro'r cystadleuydd agosaf o dros fetr.
Ef a enillodd fedal gyntaf Prydain yn y cystadlaethau athletau, a hynny ddydd Gwener wrth ennill y fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu pwysau F42/44.
'Cyflawni cymaint'
Mae'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, wedi llongyfarch Davies.
"Rydym yn gweld Aled yn rhoi oriau o waith bob wythnos yn y Ganolfan Genedlaethol.
"Mae'n un o'n sêr ifanc ni o ran athletau Prydain ac wedi cyflawni cymaint mewn amser byr iawn.
"Yn bersonol, mae'n wych imi weld rhywun o fy nhref enedigol yn cael cymaint o lwyddiant."
Ond roedd dydd Sul yn ddiwrnod siomedig i'r athletwraig Tracey Hinton, a fethodd â sicrhau lle yn rownd derfynol y ras T11 200m gan iddi ddod yn drydedd yn y rhagras.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 30 Awst 2012