Ansicrwydd am ddyfodol marina
- Published
Mae ansicrwydd am ddyfodol cynllun ar gyfer marina gwerth £19m yn Abertawe.
Y marina - gyda 400 o leoedd i gychod - oedd canolbwynt datblygiad arfaethedig SA1.
Ond dywed Llywodraeth Cymru bod yr arian a glustnodwyd ar gyfer y cynllun wedi cael ei ailddosbarthu mewn rhannau eraill o Gymru.
Dywedodd Siambr Fasnach De Cymru nad y marina o bosib oedd "y flaenoriaeth gywir" ar gyfer arian cyhoeddus.
Ond mae cyn-arweinydd Cyngor Abertawe, ac arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr awdurdod, y Cynghorydd Chris Holley, yn dweud bod y ddinas "wedi cael ei dirmygu".
Mae'n honni bod fflatiau a gofod busnes yn SA1 wedi cael eu gwerthu gyda'r marina yn ganolbwynt i'r cyfan.
Ychwanegodd Mr Holley ei fod wedi synnu bod Llywodraeth Cymru wedi gwario'r arian ar gyfer y cynllun a ddaeth i werthiant tir yn yr ardal.
Dywedodd ei fod ef a'r AC Peter Black wedi holi am y cynllun a'u bod wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart yn cadarnhau bod clustnodi'r arian wedi dod i ben yn 2008, a bod yr arian wedi hynny wedi cael ei ail-ddosbarthu.
Gwariant
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai dim ond £2.9 miliwn oedd wedi cael ei godi mewn incwm o dir yn SA1 ers 2008, a dros yr un cyfnod bod £9.3m wedi cael ei wario ar y datblygiad.
Dywedodd llefarydd: "Fe gafodd y penderfyniad i beidio parhau i glustnodi arian o fewn SA1 ei gymryd gan y weinyddiaeth (clymblaid Llafur a Phlaid Cymru) flaenorol.
"Mae gan yr adran fusnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth broses glir i ddosrannu cyllid i brosiectau fel y maen nhw'n cael eu cyflwyno, ac mae eisoes wedi darparu cefnogaeth sylweddol i Abertawe gan gynnwys £2m ym mis Mawrth eleni er mwyn prynu Oldway House er mwyn caniatáu adfywio canol y ddinas.
"Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9.3m yn SA1 dros y pedair blynedd diwethaf, ac mae hynny bron £6.4m yn fwy na'r incwm o werthiant o fewn y safle dros yr un cyfnod."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Chwefror 2009
- Published
- 4 Rhagfyr 2009
- Published
- 7 Ionawr 2008