Clwb Pêl-droed Llanelli yn osgoi gorchymyn dirwyn i ben
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Llanelli wedi dweud eu bod wedi talu arian oedd yn ddyledus i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Roedd yr adran wedi gwneud cais dirwyn i ben ac roedd yr achos i fod yn y llys ddydd Llun.
Ond fe dalodd y clwb eu dyledion ddydd Gwener.
Enillodd Llanelli, sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, Gwpan Cymru yn 2011 a'r tymor diwethaf roedden nhw'n drydydd yn yr Uwchgynghrair tu ôl i Fangor a'r Seintiau Newydd.
'Dim gweithredu'
Mae Llanelli yn seithfed yn yr uwchgynghrair ar ôl colli 3-1 oddi cartref i Gei Cona ddydd Sadwrn.
Dywedodd gwefan y clwb: "Gall y clwb gadarnhau fod yr arian sy'n ddyledus i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ei dalu'r prynhawn yma (ddydd Gwener) ac ni fydd y cais dirwyn i ben yn cael ei weithredu."
Cafodd Clwb Pêl-droed Castell-nedd ei ddirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Mai.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2012
- 18 Awst 2012
- 3 Gorffennaf 2012
- 28 Mai 2012
- 12 Mawrth 2012