Aur arall i Ellie Simmonds wrth i Liz Johnson orffen yn chweched
- Published
image copyrightAP
Mae Ellie Simmonds, sy'n hyfforddi yn Abertawe, wedi ennill ei hail fedal Aur o'r Gemau Paralympaidd.
Roedd hi'n wynebu Liz Johnson o Gasnewydd yn rownd derfynol y ras 200m unigol gymysg (SM6).
Fe wnaeth Simmonds dorri record byd wrth gipio'r Aur mewn amser o 3 munud 05.39 eiliad.
Gorffennodd Johnson yn chweched gydag amser o 3 munud 25.64 eiliad.
Natalie Waddon o Brydain oedd yn drydydd gyda Verena Schott o'r Almaen yn ail.
"Mae'n wych ennill a hynny yn y gemau cartref," meddai Simmonds.
"Dwi mor falch, dwi ddim yn gwybod be mae'r hyfforddwr wedi ei wneud i mi lwyddo cystal."
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 1 Medi 2012
- Published
- 2 Medi 2012