Casnewydd yn colli eu hail gêm yn olynnol yn erbyn Dartford
- Published
Dartford 2-1 Casnewydd
Mae Casnewydd wedi colli eu hail gêm yn olynol a'r ail gêm yn olynol oddi-cartref.
Wedi colli yn erbyn Wrecsam ddydd Sadwrn teithiodd Yr Alltudion i Dartford nos Fawrth.
Y cefnwr Richard Rose wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref gydag ergyd hwyr ym munudau olaf y gêm.
Fe wnaeth Harry Carawford ergydio'n gywir llai na phum munud wedi'r ail hanner i Dartford a hynny ar ôl i Jacob Erskine daro'r traws gyda pheniad.
Roedd ei beniad yn gosb i gamgymeriad amddiffynnol yr ymwelwyr.
Ond roedd Casnewydd wedi taro'n ôl o fewn pum munud wrth i Aaron O'Connor wyro heibio'r gôl geidwad Marcus Bettinelli.
Ond er ei bod wedi bod yn gyfartal tan y funud ola', llwyddodd Rose i fod yn ddraenen yn ystlys yr ymwelwyr a sicrhau tri phwynt i'r tîm cartref.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Medi 2012
- Published
- 28 Awst 2012
- Published
- 11 Awst 2012