BBC Cymru Fyw

Sir Efrog v Morgannwg: Y tîm cartref yn taro'n ôl

Published
image copyrightGetty Images
image captionFe wnaeth Steven Patterson fowlio 4-49

Ar ddiwedd diwrnod cyntaf y gêm rhwng Sir Efrog a Morgannwg yn Headingley mae'r ymwelwyr 272 yn erbyn 20-0 y tîm cartref..

Fe wnaeth William Bragg sgorio ei sgôr mwya' dros Forgannwg y tymor yma cyn i'r tîm cartref ddod yn ôl.

Sgoriodd Bragg y 46 oedd ei angen i sgorio dros 2,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa wrth sgorio 92 ddydd Mawrth.

Roedden nhw wedi cychwyn yn addawol, yn 124-0 cyn bod i gyd allan am 272.

Mae'r tîm cartref yn ail yr Ail Adran y bencampwriaeth.

Llwyddodd y tîm cartref i gael pwyntiau wrth i Steven Patterson fowlio 4-49.

Maen nhw 252 y tu ôl i Forgannwg ar ddiwedd y diwrnod cyntaf.