Cwest yn clywed am eirlithriad
- Published
Clywodd cwest bod mynyddwr profiadol wedi cael ei sgubo i'r farwolaeth gan eirlithriad yn Eryri.
Fe gamodd Dr Martin Coleman, 36 oed o Fodffari yn Sir Ddinbych, ar gordo eira ar fynydd y Garn yn y Glyderau. Diflanodd o dan ei bwysau mewn tywydd garw.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod menyw ifanc hefyd wedi disgyn drwy'r eira, ond ei bod wedi cael ei hachub gan fwyell eira yn y digwyddiad ym mis Rhagfyr y llynedd.
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain yn achos Dr Coleman.
Dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones bod Dr Coleman yn fynyddwr profiadol, a bod ganddo'r offer priodol, ond ei fod wedi disgyn o uchder sylweddol a tharo'i ben gan achosi marwolaeth yn syth.
Dywedodd aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen y dylid canmol tywysydd oedd hefyd ar y mynydd am beryglu ei fywyd drwy ddod i lawr y mynydd wrth ceisio cyrraedd Dr Coleman.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Rhagfyr 2011
- Published
- 18 Rhagfyr 2011
- Published
- 2 Medi 2011
- Published
- 13 Awst 2011