Ymgyrch i ddal troseddwyr dramor
- Published
Bydd ymgyrch i geisio dal troseddwyr o'r DU sy'n cuddio yng Nghyprus yn cael ei lansio'n ddiweddarach.
Cafodd rhestr o wyth dyn ac un fenyw ei chasglu gan elusen Taclo'r Tacle, Asiantaeth Troseddau Difrifol y DU (Soca), ac awdurdodau Cyprus.
Un o'r dynion yw Martin Evans, 50 oed o Abertawe, y mae'r heddlu ar ei ôl ar amheuaeth o werthu cyffuriau, dwyn a masnachu twyllodrus.
Credir ei fod yn un o'r bobl sy'n cuddio ymysg y gymuned o alltudion sy'n byw ar ynys Cyprus.
Dywedodd Isabel Cross, pennaeth ymgyrchoedd Taclo'r Tacle, bod Evans yn uchel ar y rhestr.
"Mae'n cael ei amau o werthu cyffuriau dosbarth A - cocên ac ecstasi," meddai.
"Yn ogystal, llwyddodd i dwyllo nifer o bobl o tua £100,000. Dyma berson yr ydym yn credu sy'n byw bywyd bras iawn, mwy na thebyg yng Nghyprus."
Trwydded
Mae gan y naw person ar y rhestr warant arestio Ewropeaidd i'w henw.
Mewn ymgyrch debyg gan yr elusen yn Sbaen yn 2006, llwyddwyd i arestio 49 allan o restr o 65 o bobl.
Bu Martin Evans yn gwerthu cyffuriau rhwng 1999 a 2001, ac fe redodd i ffwrdd yn 2011 wedi iddo gael ei rhyddhau o garchar ar drwydded.
Mae'n defnyddio nifer o enwau gan gynnwys Martin Roydon Evans, Martin Wayne Evans, Anthony Hall a Paul Kelly, ond mae ganddo'r llythrennau M.E. fel tatŵ ar ei fraich dde.
Mae' 5'11" o daldra ac mae ganddo wallt brown byr sy'n britho a llygaid glas.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Awst 2011
- Published
- 25 Ebrill 2006