BBC Cymru Fyw

Marwolaeth: Rhyddhau ar fechnïaeth

Published
image captionRoedd Sean yn 20 oed
Mae dyn 21 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wedi i gorff myfyriwr 20 oed gael ei ddarganfod ar ffordd dros y penwythnos.
Daethpwyd o hyd i gorff Sean Andrew Morley o Bedworth ar yr A444 yn Sir Warwick.
Roedd yn astudio hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr heddlu fod gyrrwr wedi rhoi gwybod iddyn nhw a bod y dyn 21 oed wedi ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru.