BBC Cymru Fyw

Medal efydd i Liz Johnson yn y pwll nofio

Published
image copyrightPA
image captionLlwyddodd Liz Johnson i orffen yn drydydd a sicrhau medal arall i Gymru
Llwyddodd y Gymraes Liz Johnson i sicrhau Medal Efydd arall i Gymru yn y pwll nofio.
Roedd hi'n cystadlu yn y ras 100m dull broga SB6.
Yn y rhagras fe wnaeth hi dorri record Baralympaidd mewn amser o 1 munud 41.09 eiliad.
Yn y rownd derfynol llwyddodd i orffen yn drydydd tu ôl i Viktoriia Savtsova o'r Wcraen.
Fe wnaeth Johnson guro ei hamser yn y rhagras yn y rownd derfynol gan orffen mewn 1 munud 40.90 eiliad.
Ond roedd Savtsova, sy'n 14 oed, yn gyflymach gan dorri record Paralympaidd Johnson a gorffen mewn 1 munud 39.13 eiliad.
Charlotte Henshaw o Brydain ddaeth yn ail mewn 1 munud 39.16 eiliad.
Mae nifer y medalau y mae'r Cymry wedi eu hennill yn y Gemau bellach yn 10.

Straeon perthnasol

  • Y Gemau Paralympaidd