70 yn aduniad ola staff a chleifion hen ysbyty

Craig y Nos
Image caption Cafodd miloedd driniaeth dros y degawdau yn yr ysbyty yng Nghraig y Nos

Roedd 70 o gyn-gleifion yn aduniad ola' hen ysbyty Craig y Nos yng Nghwm Tawe nos Iau.

Ac roedd awduron llyfr The Children of Craig y Nos gyhoeddwyd yn 2009 yn bresennol.

Yng Nghraig y Nos roedd y gantores, Adelina Patti o'r Eidal, yn byw tan iddi farw yn 1919.

Rhwng 1922 a'r 1980au roedd merched, plant a babanod yn cael trinaieth am y diciâu ac erbyn hyn mae'n westy ac yn ganolfan gynadleddau.

Cafodd yr aduniad cyntaf ei gynnal yn 2007.

'Ynysu'

Un oedd yn glaf yno yn nechrau'r 1950au oedd Sylvia Moore.

"Roeddwn i'n 12 oed pan es i i Ysbyty Adelina Patti i ddechrau ar ôl cael fy symud o Ysbyty Treforys.

"Cefais fy ynysu yn syth ac o'n i ar fy mhen fy hun am 18 mis, yn gorwedd ar fy nghefn a ddim ond yn cael codi i fwyta ac yfed pedwar neu bum peint o laeth y dydd.

"Roedd y diciâu wedi effeithio'n fawr ar fy ysgyfaint ac ro'n i'n gorfod gorffwys am gyfnod hir.

"Wedi cyfnod fe ges i fy symud i ward lle oedd 'na ferched eraill a oedd wedi treulio blynyddoedd yno."

Dywedodd fod llawer o ffrindiau yn ystod ei phum mlynedd yno.

Dychwelodd i'r ysbyty ychydig fisoedd yn ddiweddarach fel myfyrwraig nyrsio lle oedd am dair blynedd.

Yno hefyd y bydd awduron llyfr 'The Children of Craig y Nos' a gyhoeddwyd yn 2009.

Straeon perthnasol