Cadw dyn yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dau

Jacek Stawski Image copyright SWP
Image caption Roedd Jacek Stawski yn dad i ddau o blant

Mae dyn busnes wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl damwain car angheuol yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wythnos yn ôl.

Mae Darren Lee Jarvis, 40 oed, yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi'r ddamwain ar yr A4059 yng Nghwmbach, Aberdâr, tua 3pm ar Awst 30.

Fe fydd Mr Jarvis yn ymddangos o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener Medi 14 ar ôl bod yn llys ynadon y dref.

Roedd un o'r dynion a laddwyd yn teithio yn yr un car â Mr Jarvis.

Roedd Lee Williams yn 41 oed ac yn byw yn Aberaman.

Tystion

Cafodd Jacek Stawski, 38 oed o Benrhiwceibr ger Aberpennar ei ladd hefyd. Roedd o'n gyrru car Citroen Xsara.

Image copyright SWP
Image caption Roedd Lee Williams yn teithio yn sedd flaen y car Nissan

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r ddau a fu farw.

Cafodd Mr Williams ei ddisgrifio fel "tad a gŵr gwych".

Fe ddywedodd cymar Mr Stawski ei fod yn "dad arbennig" a oedd yn "gefnogol a chariadus".

Dim ond cadarnhau ei enw a'i gyfeiriad wnaeth Mr Jarvis o Radyr, Caerdydd, yn y llys.

Cafodd Mr Jarvis ei gludo i'r ysbyty wedi'r ddamwain.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion ac yn gofyn i bobl welodd y Nissan Skyline gwyn - car cyflym dau ddrws.

Roedd y car yn teithio o ganol Aberdâr ar hyd yr A4059 tuag at gylchfan Asda.

Dylai unrhyw â gwybodaeth berthnasol ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol