Person wedi ei arestio ar ôl tân mewn tŷ yn Yr Wyddgrug
- Published
Mae person wedi cael ei arestio ar ôl tân amheus mewn tŷ yn Yr Wyddgrug.
Toc cyn 3am ddydd Gwener cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Beech Drive.
Does 'na ddim adroddiadau am unrhyw anafiadau.
Fe gafodd drws blaen y tŷ ei ddifrodi yn ogystal â'r cyntedd a'r carpedi.
Mae achos y tân yn destun ymchwiliad.
Cafodd criwiau tân o'r Wyddgrug a Bwcle eu galw i'r cyfeiriad.
Ond roedd y fflamau wedi eu diffodd erbyn iddyn nhw gyrraedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol