BBC Cymru Fyw

Cyngerdd bandstand wrth i'r gemau ddod i ben

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionMae'r gyngerdd yn Wrecsam ymhlith 500 o ddigwyddiadau ym Mhrydain

Mae bandstand yn Wrecsam yn cynnal cyngerdd wrth ddathlu diwedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Yng ngwledydd Prydain mae dros 500 o gyngherddau tebyg yn cael eu cynnal.

Yn ôl Wendy Paintsil, un o drefnwyr y digwyddiad yn Wrecsam, bydd y rhaglen gerddorol yn "eclectig".

"Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae bandiau, grwpiau a Chôr Cymunedol Wrecsam â mwy na 100 o aelodau.

"Rydyn ni'n falch i gael y cyfle i groesawu cymaint o gerddorion talentog lleol i Lwyn Isaf yn Wrecsam.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn ymuno efo ni er mwyn dathlu cerddoriaeth leol."

Mae'r cyngherddau'n cael eu cynnal rhwng 1pm a 5pm ddydd Sul.

Am 7.30pm bydd seremoni gau'r Gemau Parolympaidd yn cael ei chynnal yn Llundain.