Josie Pearson yn ennill medal aur
- Published
Mae Josie Pearson wedi ennill medal aur yn rownd derfynol taflu'r ddisgen F51-F53.
Ei thrydydd tafliad oedd y gorau, 6.58 meter.
Llwyddodd y Gymraes o'r Gelli Gandryll i sgorio 1122 yn y Gemau Paralympaidd ac mae hi wedi creu record byd newydd.
Catherine O'Neill o Iwerddon oedd yn ail (5.66 metr) a Zena Cole o America (5.25 metr) yn drydedd.
Mae camp Josie ar ôl llwyddiant Aled Sion Davies a Mark Colbourn.
Chwaraeodd hi rygbi cadair olwyn ar ôl torri ei chefn mewn damwain ffordd yn 2003.
Beic llaw
Yn y cyfamser, fe lwyddodd y Gymraes Rachel Morris i ennill medal efydd yn y ras ffordd H1-3.
Gorffennodd mewn 1 munud 43:08 eiliad y tu ôl i'r Americanwyr Marianna Davis (1 munud 41:34 eiliad) a Monica Bascio (1 munud 42:07 eiliad).
Rachel yw'r beiciwr llaw cyntaf o Brydain i gael ei choroni'n bencampwr dwbl y byd.
Roedd hi a'i chyd aelod o dîm Prydain, Karen Darke, wedi ceisio rhannu'r drydedd wobr wrth orffen law yn llaw.
Ond roedd olwyn beic Rachel, y mae ei theulu'n hanu o Aberdaugleddau, wedi croesi o flaen un Darke a hi gafodd y fedal wedi'r ras yn Brands Hatch.
Mae'r ddwy fedal yn golygu bod athletwyr o Gymru wedi ennill 13 o fedalau, un yn brin o nod Chwaraeon Cymru cyn y gemau.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 7 Medi 2012