BBC Cymru Fyw

Cynhadledd ryngwladol ymgyrchwyr iaith

Published
image captionYn annerch ddydd Gwener: François Alfondi ASE, Partitu dia Nazione Corsa
Mae ymgyrchwyr sawl gwlad weedi bod yn trafod profiadau wrth i fudiad iaith ddathlu hanner can mlynedd.
Siaradwyr o Golombia, El Salvador, Gwlad y Basg, Twrci a Chatalonia oedd yn annerch cynadleddwyr yng Nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth ddydd Gwener.
Hefyd roedd Ned Thomas, awdur a Llywydd Mercator, yn siarad yn y digwyddiad sy'n rhan o benblwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd y trefnwyr taw'r bwriad oedd "penderfynu pa wersi y gall Cymru eu dysgu oddi wrth ymgyrchoedd gwledydd eraill".
Ymhlith y siaradwyr roedd Maria Arenys o sefydliad rhyngwaldol CIEMEN, Catalonia; Reynaldo Mariqueo, ymgyrchydd iaith Mapuche; François Alfondi ASE, Partitu dia Nazione Corsa ac Enrique Uribe Jongbloed, Prifysgol La Sabana, Chia, Colombia.
media captionGarry Owen yn holi Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mae Jill Evans ASE, y Dr Elin Haf Gruffydd Jones, y Dr Sian Edwards, Menna Machreth a Toni Schiavone'n cyfrannu at y drafodaeth.
Dydd Sadwrn mae rali yn yr un lleoliad yn dathlu 50 mlynedd o ymgyrchu'r gymdeithas.
Y siaradwyr yw'r awdur a'r darlledwr Mike Paker, Jill Evans ASE, Llywydd Plaid Cymru, Paul Bilbao Sarria o'r mudiad iaith Fasgeg a Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith.

Straeon perthnasol

  • Cynllun iaith i garchardai