20 mlynedd o weithio yng Nghymru

Ffatri Toyota
Image caption Mae'r ffatri ar Lannau Dyfrdwy yn allforio cynnyrch ledled y byd

Bydd cwmni Toyota yn dathlu 20 mlynedd o gynhyrchu peiriannau ceir ar Lannau Dyfrdwy ddydd Llun, ac fe fydd seremoni i nodi'r achlysur.

Prif westai'r seremoni fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Ers 1992, mae'r ffatri wedi cynhyrchu dros 3.7 miliwn injan, a hon oedd y ffatri gyntaf y tu allan i Japan i gynhyrchu injan hybrid y cwmni sy'n cael ei ystyried yn un o'r goreuon yn ei ddosbarth.

Mae'r ffatri yn cynhyrchu peiriannau ar gyfer marchnadoedd ledled y byd gan gynnwys Affrica, Japan a De America.

'Ymrwymiad'

Wrth baratoi ar gyfer y seremoni, dywedodd Carwyn Jones: "Mae stori Toyota yn un o lwyddiant i Gymru y gallwn fod yn falch ohoni.

"Am ugain mlynedd mae'r cwmni wedi bod yn gwneud cynnyrch o'r radd flaenaf. Mae ymrwymiad y cwmni i Lannau Dyfrdwy yn dangos fod gan Gymru'r gweithlu a'r isadeiledd i gefnogi gweithgynhyrchwyr byd eang.

"Mae Toyota yn bwysig iawn i economi gogledd Cymru, ac yn brawf bod Cymru yn gallu bod yn ganolfan lwyddiannus i gwmnïau sy'n cystadlu ar lefel byd eang.

"Hoffwn ddiolch i'r cwmni am eu buddsoddiad a'u hymroddiad i'r ardal yn y cyfnod economaidd anodd yma.

"Mae Toyota wedi cyflwyno technoleg newydd, sgiliau newydd a busnes newydd i nifer o gyflenwyr lleol, a gobeithio y bydd hyn yn parhau i'r dyfodol."

Dywedodd cyfarwyddwr y ffatri, Richard Kenworthy: "Rydym yn falch o fod yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ein cymunedau ac yn enwedig ein cwsmeriaid ac aelodau.

"Mae heddiw'n gyfle i bawb sy'n rhan o Toyota yng Nghymru i ddathlu ein llwyddiannau dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac i edrych ymlaen at heriau a chyfleoedd newydd y blynyddoedd sydd o'n blaenau."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.