Aberystwyth 0-5 Port Talbot
- Cyhoeddwyd

Roedd 'na raglen lawn o gemau yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn.
Aberystwyth 0-5 Port Talbot
Ergydiodd David Brooks, Lee John a Matty Crowell - o'r smotyn - cyn i Jeff White goroni'r cyfan.
Mae Aber yn dal i ddisgwyl eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.
Lido Afan 1-0 Y Bala
Gôl Anthony Rawlings wedi 48 munud yn arwain at fuddugoliaeth Lido Afan.
Airbus UK Brychdyn 2-3 Bangor
Chris Budrys a Ryan Wade yn rhwydo i'r tîm cartre' ond tair gôl Chris Simm yn yr hanner cynta'n drawiadol.
Y Drenewydd 1-3 Cei Conna
Shane Sutton yn sgorio i'r Drenewydd wedi 21 o funudau. Jamie Petrie yn sgorio dwy i'r Cei cyn i Rhys Healey setlo'r mater.
Prestatyn 7-1 Caerfyrddin
Crasfa i Gaerfyrddin wrth i Mike Parker sgorio ddwywaith o'r smotyn a dwy gôl yr un i Neil Gibson a Jason Price.
Cafodd Casey Thomas a Rhys Williams o Gaerfyrddin eu hanfon o'r cae.
Y Seintiau Newydd 0-0 Llanelli
Y gêm ddisgôr yn golygu bod Bangor yn lle'r Seintiau Newydd ar frig y tabl.