Y Pro 12: Scarlets yn ennill eto

Logo Rabo Direct Image copyright RD

Gleision 19 - 21 Caeredin

Roedd hi'n noson siomedig i'r Gleision wrth i Gaeredin gipio'r pwyntiau gyda gôl adlam Craig Laidlaw ddau funud cyn y chwib olaf yn sicrhau buddugoliaeth.

Roedd tîm y brifddinas wedi aros ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gêm, gyda chais Alex Cuthbert a throsiad a phedair cic gosb gan Leigh Halfpenny yn gyfrifol am y pwyntiau.

Ond arhosodd yr ymwelwyr o fewn cyrraedd diolch i gais gan Tim Visser a chais cosb, ac fe wnaeth troed Laidlaw y gweddill.

Glasgow 13-18 Scarlets

Ar ôl y dechrau rhyfeddol i'w tymor yr wythnos ddiwethaf, roedd mwy o gyffro i gefnogwyr y Scarlets nos Wener.

Yn y gorffennol mae record y Scarlets yn Glasgow wedi bod yn dipyn llai na boddhaol.

Ond daeth dau gais gan George Earl ac Andy Fenby i roi mantais i'r Scarlets ar yr egwyl.

Ychwanegodd George North un arall yn yr ail hanner, ond ar noson wael i'r rhai oedd yn cicio, dim ond un trosiad gafwyd gan Rhys Priestland.

Roedd cicio Glasgow yr un mor wael, ac er i Chris Cussiter rhoi gobaith i Glasgow yn eu gêm gyntaf yn Stadiwm Scotstoun, y tîm o Lanelli aeth â hi.

Gemau eraill

Yn y ddwy gêm arall chwaraewyd nos Wener, roedd hi'n noson anodd arall i'r newydd-ddyfodiaid, Zebre, yn yr Eidal.

Er iddyn nhw ddod yn ôl yn yr ail hanner yn erbyn Connacht, roedd y Gwyddelod yn rhy gryf gan ennill o 30-17.

Roedd rhyddhad hefyd i Munster yn dilyn y cweir gawson nhw gan y Scarlets wythnos yn ôl wrth iddyn nhw drechu Treviso o

TREFN GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 28/29/30 Medi 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 14/15/16 Medi 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 21/22/23 Medi 28/29/30 Medi 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 14/15/16 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 28/29/30 Medi 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 7/8/9 Medi 4/5/6 Ion.
Leinster 21/22/23 Medi 28/29/30 Rhag. 7/8/9 Medi 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 21/22/23 Medi 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 14/15/16 Medi 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 14/15/16 Medi 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.