Medal efydd i Sara Head
- Published
Mae Sara Head o Beddau wedi ennill medal efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain.
Roedd Sara yn aelod o dîm tenis bwrdd merched Prydain gyda'i phartner Jane Campbell.
Mewn gornest gyffrous ac agos, llwyddodd y tîm i guro'r Eidal o 3-2 yn y gêm i benderfynnu tynged y fedal efydd.
Dyma yw'r 14eg medal i gael ei ennill gan Gymry yn y Gemau yn Llundain 2012.
Mae hynny'n gyfartal â'r nifer o fedalau enillwyd gan Gymry yn Beijing yn 2008.
Dechreuodd Sara Head gystadlu mewn pêl-fasged cadair olwyn tan i'w chariad gyflwyno i denis bwrdd, ac mae'n chwarae'r gamp ers deng mlynedd bellach.
Fe allai pethau wella eto i'r Cymry ddydd Sadwrn wrth i Nathan Stephens gystadlu yng nghystadleuaeth taflu'r waywffon (F57), ac mae ganddo obaith gwirioneddol am fedal arall.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Awst 2012
- Published
- 24 Awst 2012