Gwledd o geisiadau yn Heol Sardis
- Published
image copyrightOther
Cafodd Bedwas dipyn o grasfa wrth golli 55-27 oddi cartre' yn erbyn Pontypridd yn Heol Sardis.
Roedd y gystadleuaeth yn frwd ar y cychwyn cyn i'r tîm cartre' newid gêr.
Sgoriodd Pontypridd wyth o geisiadau ond pob clod i Fedwas am beidio â rhoi'r gorau iddi - a hawlio pedwar cais. Pwyntiau bonws i Bontypridd.
Y gemau eraill:
Cwins Caerfyrddin 35-5 Caerdydd
Cross Keys 35-15 Pen-y-bont
Llanymddyfri 37-17 Castell-nedd
Abertawe 32-13 Aberafan