Buddugoliaeth ysgubol i Wrecsam oddi cartref
- Published
Caergrawnt 1-4 Wrecsam
Cafodd Andy Morrell a Danny Wright ddwy gôl yr un oddi cartre' yn Stadiwm Abaty yn erbyn Caergrawnt.
Llwyddodd Coulson i sgorio gôl gysur i'r tîm cartre'.
Triphwynt pwysig i'r Cymry a'r rheolwr Morrell yn creu anhrefn yn amddiffyn y gwrthwynebwyr.
Mae'r Dreigiau'n ddiguro mewn chwe gêm ac yn wynebu Luton yn y gêm nesa' ac os ydyn nhw'n llwyddo, byddan nhw'n dangos eu bod yn benderfynol o gael dyrchafiad.
Casnewydd 0-0 Stockport
Mae'n hawdd crynhoi'r gêm - roedd y dorf wedi gweld gwell.
Yn sicr, roedd Stockport yn ystyfnig ac yn drefnus ac yn haeddu'r pwynt.
Roedd y cefnogwyr cartre' yn disgwyl buddugoliaeth a'r tîm yn disgwyl mwy o gefnogwyr.
Doedd y dyfarnwr na'r chwaraewyr ddim ymysg y goreuon, meddai'r sylwebydd John Hardy, ac roedd y chwiban ola' yn fendith.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Awst 2012
- Published
- 18 Awst 2012
- Published
- 14 Awst 2012
- Published
- 11 Awst 2012