£40m o hwb i stad Penrhys yn y Rhondda
- Published
Mae cynlluniau i adfywio stad ar gost o £40m wedi cael eu cymeradwyo.
Y gobaith yw codi 100 o gartrefi preifat ar y stad a gafodd ei hagor yn 1968, a gwario £2m ar insiwleiddio allanol i 315 o fflatiau neu dai cymdeithas adeiladu.
Bydd y cartrefi newydd ar dir lle cafodd dwy ran o dair o dai ei chwalu yn y nawdegau cynnar.
Mae arweinydd cymunedol wedi dweud y bydd y cynllun yn golygu "cyfnod newydd".
£350,000
Bydd y tai presennol yn cael eu moderneiddio mewn partneriaeth ag EDF Energy.
Dywedodd y gymdeithas adeiladu, Cartrefi Rhondda Cynon Taf, y bydden nhw'n gwario £350,000 ar wella parciau a llecynnau.
"Mae'r newyddion yn ardderchog," meddai Kath Lewis, Ysgrifenyddes Pwyllgor Gweithredu Penrhys a thenant ar y stad ers 40 mlynedd.
"Rydyn ni am barhau'r ysbryd cymunedol ac mae'r cynllun yn allweddol."
Un o denantiaid y stad, Steven Trythall, gyflwynodd y cynllun gan ei fod yn arbenigwr yn y maes.
"Fe es i'r cyfarfod cymunedol cynta' a sgwrsio ag Ian Robinson o Independent Regeneration a chynigiodd e swydd.
"Mae wedi bod yn bleser pur gweithio ar y prosiect, uchafbwynt fy ngyrfa."
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Awst 2012
- Published
- 5 Awst 2012
- Published
- 9 Gorffennaf 2012