BBC Cymru Fyw

Achub tri oedd yn sownd mewn mwd ger harbwr Y Rhyl

Published
image captionAed â'r tri i Orsaf Bad Achub Y Rhyl.
Mae oedolyn a dau o blant wedi eu hachub ar ôl mynd yn sownd yn y mwd ger wal harbwr Y Rhyl.
Gwirfoddolwyr Sefydliad y Bad Achub a Gwylwyr Glannau'n defnyddio cyfarpar arbennig, gan gynnwys sled, lwyddodd i achub y tri am 11:30am.
Roedd aelodau'r cyhoedd wedi mynd yn sownd yn y mwd wrth geisio eu helpu.
Aed â'r tri i Orsaf Bad Achub Y Rhyl.