Tocynnau teithio'r henoed yn costio £427m
- Published
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod tocynnau teithio am ddim i'r henoed wedi costio £427m ers 10 mlynedd.
Dywedodd gweinidogion fod £213m wedi ei neilltuo ar gyfer y cynllun tan 2014.
Mae'r cynllun, sy'n cynnwys pobl anabl o unrhyw oedran, yn golygu bod 600,000 yn teithio ar fysus lleol.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai gynnwys cyn aelodau'r lluoedd arfog.
Yn ystod y flwyddyn gynta' y gost oedd £17.7m.
Y flwyddyn honno ymatebodd y gweithiwr cwmni bysus, John Richards, 75 oed o'r Hen Golwyn, i her y gweinidog, Alun Pugh.
Fe deithiodd o'r gogledd i'r de mewn dau ddiwrnod.
Yr un daith
Ddydd Llun mae'n defnyddio ei docyn teithio ar hyd yr un daith - a'i gydymaith yw'r cyflwynydd teledu, Iolo Williams.
Dywedodd ei fod yn hoff o deithio ar y bws.
"Dwi ar y bws gydol y dydd ac mae hyn yn arbed costau cynhesu'r tŷ," meddai.
Roedd y bws Rhif 12 yn Hen Golwyn, meddai, yn arfer teithio bob awr ond oherwydd galw defnyddwyr y tocynnau teithio mae'n teithio bob chwarter awr.
"Os ydyn nhw'n dileu'r cynllun, mi fyddai'n ddinistriol ... mi fyddai llawer o hen bobl yn aros yn eu tai."
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mai 2012
- Published
- 27 Ionawr 2012
- Published
- 6 Hydref 2010
- Published
- 26 Awst 2009