BBC Cymru Fyw

Y Weriniaeth Siec Dan-21 5-0 Cymru Dan-21

Published
image copyrightEmpics
image captionHon oedd ail gêm Geraint Williams fel rheolwr tîm dan-21 Cymru
Roedd tîm dan-21 Cymru eisoes allan o rowndiau terfynol Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop wedi iddyn nhw golli i Armenia, ond fe fydd y golled drom yn brifo serch hynny.
Cafodd y Cymry wers bêl-droed gan y tîm ar frig y grŵp - Y Weriniaeth Siec - yn ail gêm Geraint Williams fel rheolwr y tîm.
Er mai dim ond 1-0 oedd hi ar yr egwyl, doedd yr ystadegau moel ddim yn cyfleu rheolaeth y tîm cartref yn yr hanner cyntaf.
Filip Novak gafodd y gôl wedi 17 o funudau, ond a dweud y gwir doedd Cymru ddim yn ymddangos fel eu bod am sgorio gydol y 90 munud.
Roedd rhaid disgwyl tan yr awr am ail gôl Y Weriniaeth Siec, ac roedd cynnig Thomas Wagner yn ddigon i wneud i Gymru roi'r ffidil yn y to.
Pan mae eilyddion yn llwyddo, mae hyfforddwyr yn cael y clod, ac fe fydd sawl un yn canu clodydd Jakub Dovalil am ddod â Stanislav Tecl i'r maes wedi 67 munud - roedd ei ddylanwad yn glir.
O fewn munud i'w ddyfodiad, roedd ei bresenoldeb wedi creu cyfle i Ondrej Vanek i sgorio'r drydedd i'w dîm.
Ac o fewn pum munud arall roedd Tecl yn y cwrt cosbi ac yn cael ei faglu gan Adam Henley - cic o'r smotyn medd y dyfarnwr, a Tecl ei hun gododd i'w gwneud hi'n 4-0 o'r smotyn.
Wedi 79 munud, Tecl oedd wrth law unwaith eto i droi'r sgôr o fod yn golled drom i fod yn embaras i Gymru.
Doedd dim pwysigrwydd i'r gêm o safbwynt Cymru, ond fe fydd canlyniad mor wael yn ergyd wrth edrych i'r dyfodol i chwaraewyr ifanc Geraint Williams.

Straeon perthnasol

  • Geraint Williams yn rheolwr newydd Cymru dan-21