Dim teithiau awyren rhwng Caerdydd a Zürich

  • Cyhoeddwyd
Awyren HelveticFfynhonnell y llun, Helvetic Airways
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi'r cyswllt awyren rhwng Caerdydd a Zürich

Mae cwmni o'r Swistir wedi rhoi'r gorau i gynnig teithiau awyrennau rhwng Caerdydd a Zürich dros y gaeaf, gan ddweud nad oedd digon o deithwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth y llynedd.

Roedd Helvetic Airways yn cynnig tri gwasanaeth pob wythnos rhwng y dinasoedd y gaeaf diwetha', gydag arhosiad byr ym Mryste.

Ond dim ond rhwng Bryste a Zürich fydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal nawr.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd a Helvetic Airways eu bod yn dal i gynnal trafodaethau ynglŷn ag ailddechrau'r gwasanaeth yr haf nesaf.

Fe gyhoeddodd y maes awyr iddyn nhw wneud colled weithredol o £319,000 yn 2011.

Gostyngiad

Dechreuodd teithiau uniongyrchol rhwng Zürich a Chaerdydd ym mis Mawrth 2011, ond o fis Rhagfyr diwetha' ychwanegiad arhosiad byr ym Mryste am nad oedd digon o docynnau'n cael eu gwerthu yng Nghymru.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd wrth BBC Cymru ar y pryd nad oedd gan y cwmni teithiau awyrennau broblem yn gwerthu tocynnau i bobl yn teithio i mewn o'r Swistir.

Mae nifer y teithwyr sy'n dod trwy'r maes awyr wedi disgyn yn hanner cyntaf 2012 ar y cyfan - i 440,000 o'i gymharu â 558,000 dros yr un cyfnod y llynedd.

Yn ôl y maes awyr, ymadawiad y cwmni teithiau rhad bmibaby oedd yn bennaf gyfrifol am y cwymp.

Wrth ymateb i golled y teithiau i Zürich, dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd:

"Mae eu penderfyniad i roi'r gorau i gynnal gwasanaeth yn ystod gaeaf 2012/13 yn benderfyniad masnachol ar sail canlyniadau'r llynedd.

"Tra ei fod yn siomedig, rydym yn gweithio i sicrhau bod y cwmni'n dychwelyd ar gyfer haf 2013 ac rydym yn hyderus y bydd modd sicrhau hyn.

"Mae'r gwasanaeth wedi dod â nifer o ymwelwyr o'r Swistir i Gymru ac mae hyn, ry'n ni'n credu, yn gyfle i adeiladu arno."

'Diffyg cyfoeth'

Dywedodd Martin Evans, cymrawd ar ymweliad yn ysgol fusnes Prifysgol Morgannwg, wrth BBC Cymru nad oedd y newyddion yn annisgwyl o ystyried y demograffig yng Nghymru.

"Does dim digon o bobl ddigon cyfoethog yng Nghymru i fynd ar wyliau gaeaf - yn enwedig yn ymwneud â chwaraeon a sgïo - tra bod yna fwy o'r math o bobl ym Mryste sy'n mynd ar wyliau fel hyn.

"Ynghyd â phrinder teithwyr o'r Swistir i Gymru, a chysylltiadau busnes rhwng y ddwy wlad, doedd y gwasanaeth ddim yn gweithio."

Dywedodd nad oedd modd i Gaerdydd gystadlu gyda Bryste ar yr un telerau, gan fod Bryste yn llawer mwy a bod yna ddau gwmni rhad wedi'u lleoli yno.

Ychwanegodd fod angen i Faes Awyr Caerdydd ganolbwyntio ar "gyfleoedd niche " er mwyn sicrhau llwyddiant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol