Pryder clwb rygbi

Logo Clwb rygbi Pont-y-Pŵl Image copyright other
Image caption Mae clwb Pont-y-pŵl yn wynebu bil cyfreithiol anferth

Mae llywydd clwb rygbi Pont-y-pŵl wedi datgelu fod 'na amheuon dros yr haf a fyddai'r tîm yn chwarae o gwbl y tymor hwn.

Daw hyn wrth i'r clwb wynebu bil cyfreithiol o filoedd o bunnau ar ôl iddynt golli achos llys yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Graham Price, cyn flaenwr rhyngwladol, fod nifer o chwaraewyr wedi gadael y clwb ddiwedd y tymor diwethaf.

"Roedd y chwaraewyr hynny am gael chwarae yn yr uwchgynghrair, felly ar un adeg yn yr haf roeddwn yn amau a fyddai yna ddigon o chwaraewyr ar gael i ffurfio tîm," meddai Mr Price wrth BBC Cymru.

Mae'r clwb yn credu eu bod yn wynebu bil cyfreithiol o rai cannoedd o filoedd o bunnau.

Ers misoedd bu Pont-y-pŵl yn brwydro yn y llysoedd yn erbyn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i beidio â'u cynnwys yn yr uwchgynghrair newydd 12 tîm.

Methiant fu ymdrechion y clwb i brofi bod yr Undeb wedi torri cytundeb, a dyfarnwyd y bod yn rhaid iddynt dalu costau cyfreithiol yr achos.

Pont-y-pŵl oedd un o'r 11 clwb gwreiddiol ddaeth ynghyd yn 1881 i sefydlu Undeb Rygbi Cymru.

Dywed Hefin Archer Williams, cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn chwaraeon gyda chwmni Leo Abse Cohen, y gallai bil o'r fath olygu diwedd ar glwb o faint Pont-y-pŵl.

"Fel unrhyw ddiwydiant, pe na bai'r clwb yn gallu fforddio talu ei filiau cyfreithiol yna byddai'n rhaid edrych ar leihau costau eraill, neu o bosib eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.