Comisiynwyr Heddlu: Papurau pledleisio dwyieithog?
- Published
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod yn gweithio ar frys i sicrhau y bydd yna bapurau pleidleisio dwyieithog ar gael wrth i bobl Cymru ethol Comisiynwyr yr heddlu fis Tachwedd.
Yr etholiadau ar Dachwedd 15 fydd y rhai cyntaf ar gyfer y swydd newydd mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr.
Ond mae'r Comisiwn Etholiadol wedi rhybuddio y bydd y papurau pleidleisio yn uniaith Saesneg yng Nghymru oni bai bod rhybudd penodol yn cael ei osod ar lawr Tŷ'r Cyffredin o fewn y pythefnos nesa'.
Ymhlith dyletswyddau'r Comisiynwyr newydd y mae sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi'r prif gwnstabl.
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, mae'n rhaid i Orchymyn arbennig gael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi.
Mae yna 16 diwrnod ar ôl lle mae modd i orchymyn o'r fath gael ei osod ar lawr y Tŷ.
Pe na bai hynny'n digwydd erbyn diwedd mis Hydref yna bydd y papurau pleidleisio yng Nghymru yn uniaith Saesneg.
Fe fydd yna bedwar Comisiynydd ar gyfer heddluoedd Cymru - sef Heddlu'r De, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent a Heddlu'r Gogledd.
Fe fydd cyflog y comisiynydd yn Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru yn £70,000, a bydd yn £65,000 yn ardal Dyfed Powys.
Bydd y cyflog ar gyfer Heddlu De Cymru yn £85,000 y flwyddyn.