Prinder staff mewn unedau babanod, medd adroddiad
- Published
Mae angen dros 80 o nyrsys er mwyn sicrhau bod lefelau staffio mewn 13 o unedau babanod ar draws Cymru yn cwrdd â'r gofynion sydd wedi' eu hargymell, yn ôl adroddiad.
Dywed yr adroddiad gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol bod y diffyg nyrsys yn "sylweddol ac yn bresennol ymhob bwrdd iechyd am ymhob uned".
Er gwaethaf argymhellion a wnaed ddwy flynedd yn ôl, meddai aelodau'r pwyllgor, mae'r unedau yn dal yn brin o adnoddau ac yn dibynnu ar ewyllys da eu staff.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen gwneud mwy.
Mesurau brys
Mae tua 4,000 o fabanod sâl neu a gafodd eu geni'n gynnar yn mynd i'r 13 o unedau ar draws Cymru bob blwyddyn.
Clywodd y pwyllgor nad oedd cymhareb staffio'r unedau - sy'n seiliedig ar nifer y nyrsys am bob babi - yn cyrraedd y lefel derbyniol.
Roedd asesiad yn dangos bod angen bron 83 o nyrsys llawn amser er mwyn llenwi'r bwlch.
Daw hyn er gwaethaf ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd yng Ngorffennaf 2010 yn galw am fesurau brys i ateb y broblem.
Er bod rhai gwelliannau wedi digwydd, dywed yr adroddiad diweddaraf bod hynny'n digwydd yn rhy araf.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Dywedodd nifer o dystion wrthym am y pwysau dwys y maent yn gweithio ynddo, ac rydym yn credu bod gorddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad y staff i gadw'r unedau i fynd heb adnoddau digonol."
Mae'r adroddiad hefyd yn rhestru trafferthion gyda'r nifer o grudiau oedd ar gael, a'r gefnogaeth oedd ar gael i rieni a oedd yn amrywio o uned i uned.
Dylai'r byrddau iechyd lunio cynlluniau am sut i ymdopi gyda'r prinder nyrsys, medd yr adroddiad.
'Sefyllfa beryglus'
Dywedodd Sybil Barr, ymgynghorydd i'r newydd-anedig yng Nghaerdydd: "Mae yna ddyddiau pan ydym yn hwylio'n agos at y gwynt.
"Rhaid i ni weithio ar ganran o gleifion sy'n sylweddol uwch na'r hyn a gytunwyd fel lefel diogel, a phan mae hynny'n digwydd ddydd ar ôl dydd mae'n sefyllfa beryglus.
"Rydym yn gwneud ein gorau ac yn llwyddo, a gobeithio y byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Ond nid yw'r sefyllfa yn ddelfrydol o bell ffordd, ac fe ddylai canlyniadau ymchwiliad fel hwn ein gyrru i'r cyfeiriad cywir lle gallwn gael mwy o nyrsys yn yr unedau newydd-anedig er mwyn gofalu am y crudiau sydd gennym a gobeithio staffio'r crudiau ychwanegol sydd eu hangen arnom."
'Moderneiddio'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod angen gwelliannau er mwyn darparu gofal o safon uchel.
"Mae ymchwiliad y pwyllgor yn pwysleisio materion sydd eisoes wedi eu hadnabod yng nghynllun y llywodraeth, Law yn Llaw at Iechyd, megis recriwtio a hyfforddi staff meddygol, a bod rhai gwasanaethau arbenigol wedi eu taenu'n rhy denau," meddai.
"Mae Law yn Llaw at Iechyd yn dadlau'r achos dros foderneiddio gwasanaethau. Bydd creu canolfannau rhagoriaeth, ochr yn ochr â mwy o ofal yn agosach at adre, yn gwella safon gofal.
"Mae'r byrddau iechyd lleol yn datblygu cynlluniau i wella eu gwasanaethau, ac i gwrdd â gofynion Law yn Llaw at Iechyd."
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Awst 2012
- Published
- 29 Awst 2012
- Published
- 18 Ionawr 2012
- Published
- 29 Medi 2011