BBC Cymru Fyw

Pryderon am lorïau trwy ganol tref

Published
image captionDywedodd y cwmni y byddai'r 15 o dyrbinau yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer 23,800 o gartrefi
Mae'r confoi cyntaf o gydrannau mawr sydd eu hangen i godi fferm wynt yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau cyrraedd.
Eisoes mae busnesau lleol ar hyd llwybr y confoi, sy'n mynd drwy Pontardawe, yn bryderus y gallai eu busnesau ddioddef.
Bydd lorïau yn teithio ddwywaith bob dydd o ddociau Abertawe i'r safle ger Rhydaman dros yr wythnosau nesaf.
Mae disgwyl y bydd safle Mynydd y Betws yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 23,800 o dai.
Bydd 15 o dyrbinau yn cael eu sefydlu ger Cwmgors gan gwmni Siemens ar ran cwmni o Iwerddon, yr Elecricity Supply Board (ESB).
Bydd y lorïau yn teithio o dan oruchwyliaeth yr heddlu ac yn gadael Abertawe am 9:00am ac am 1:00pm.
'Amharu'n fawr'
Dywedodd Lynette Purcell, Cynghorydd ar Gyngor Castell -nedd Port Talbot, y byddai pob confoi yn "amharu'n fawr ar Bontardawe.
Fe fydd pob llwyth yn cynnwys tri llafn, dwy ran o'r tŵr ac un darn canol.
Fe fydd y lorïau yn mynd ar hyd Fabian Way i'r M4 cyn gadael y draffordd ar gyffordd 42 a theithio ar hyd yr A4067 a'r A474 drwy Bontardawe cyn cyrraedd y safle.
Mae disgwyl i'r daith gymryd awr a chwarter a bwriad y cynlluniau yw amharu cyn lleied â phosib wrth fynd drwy'r dre ac i'r ardal o gwmpas y safle ar gyrion Cwmgors.
Ni fydd y confoi yn teithio yn ystod oriau brig nac ar benwythnosau.
Ym mis Hydref y llynedd daeth tua 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yng Nghwmgors i leisio'u pryderon na fyddai'r ffordd yn medru ymdopi gyda lorïau mor fawr.
Ond dywedodd Gareth Clubb o fudiad Cyfeillion y Ddaear fod dirfawr angen ffynonellau o ynni adnewyddol.
"Mae llawer o waith i'w wneud i geisio perswadio pobl am fanteision ynni'r gwynt," meddai.
"Rydym yn gwybod bod tanwydd ffosil yn dechrau mynd yn fwy prin, a gwynt yw'r ffurf rataf ar ynni adnewyddol sydd gennym ac ar y tir mae'n llawer rhatach nag ar y môr."

Straeon perthnasol

  • Fferm wynt yn achosi pryder i drigolion Cwmgors