Gweithdy ar seiberderfysgaeth
- Published
Bydd gweithdy ym Mhrifysgol Abertawe yn ystyried beth yn union yw seiberderfysgaeth, pa mor berthnasol yw ei bygythiad a sut y dylwn ymateb i'r bygythiad.
Ddydd Iau a dydd Gwener cynhelir gweithdy gan dîm prosiect seiberderfysgaeth y brifysgol, a bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o Awstralia, Iwerddon a'r DU yn ogystal ag academyddion yn Abertawe.
Mae tair thema - Deall seiberderfysgaeth; Asesu bygythiad seiberderfysgaeth ac Ymateb i seiberderfysgaeth.
Ar ôl y gweithdy, caiff y papurau eu casglu at ei gilydd a'u cyhoeddi mewn llyfr.
'Dim consensws'
Yn ôl Stuart Macdonald, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae seiberderfysgaeth yn debygol o fod yn gysyniad cyfarwydd ond amwys i nifer o bobl.
"Er bod y term wedi bodoli ers rhyw ugain mlynedd bellach, does dim consensws o ran yr hyn y mae'n cyfeirio ato, pa mor berthnasol yw'r bygythiad y mae'n ei gyflwyno a sut y dylai gwladwriaethau ac eraill ymateb iddi (os o gwbl)".
Dywedodd y ceir anghytuno hyd yn oed ynghylch a yw seiberderfysgaeth wedi digwydd erioed ai peidio!
Ychwanegodd: "Mewn ymgais i ddechrau darparu atebion gwnaethom sefydlu rhwydwaith ymchwil amlddisgyblaethol seiberderfysgaeth yn 2011, yn dod ag arbenigedd yn y gwyddorau ffisegol (peirianneg, cyfrifiadureg) a'r gwyddorau cymdeithasol (gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith, troseddeg) at ei gilydd.
"Y tu hwnt i'w aelodau academaidd, mae'r prosiect hefyd yn cynnal tri ymchwilydd ôl-raddedig a dau intern sy'n derbyn tâl.
"Mae gweithgarwch ymchwil diweddar ein tîm wedi cynnwys cynnal arolwg ar farnau dros 500 o academyddion ar draws y byd ar seiberderfysgaeth, ac adeiladu cronfa ddata o ddiffiniadau gwleidyddol, cyfreithiol a diffiniadau eraill o seiberderfysgaeth i helpu archwilio gwahaniaethau allweddol yn y modd y mae pobl yn ymdrin â'r term hwn ar draws awdurdodau cyfreithiol neu ddiwylliannau gwleidyddol."
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Mehefin 2012
- Published
- 27 Ionawr 2011
- Published
- 17 Mehefin 2009
- Published
- 14 Tachwedd 2005
- Published
- 21 Tachwedd 2008
- Published
- 22 Mawrth 2004
- Published
- 13 Mai 2004