BBC Cymru Fyw

Prestatyn 1 - 0 Y Seintiau Newydd

Published
image copyrightNot Specified

Roedd 'na sioc yn yr unig gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Fercher, gyda Phrestatyn yn maeddu pencampwyr y llynedd, Y Seintiau Newydd 1 - 0.

Fe wnaeth y blaenwr Jason Price sgorio'r gôl allweddol wedi 59 munud - mae yntau nawr wedi sgorio pump yn ei bedair gêm ddiwethaf.

Mae Prestatyn nawr yn ail yn y tabl, y tu ôl i Fangor, gyda'r Seintiau yn drydydd, ond gwahaniaeth goliau yn unig sy'n gwahaniaethu'r tri chlwb - maent i gyd â deg pwynt wedi pum gêm.

Roedd 'na raglen lawn o gemau yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn.

Aberystwyth 0-5 Port Talbot

Ergydiodd David Brooks, Lee John a Matty Crowell - o'r smotyn - cyn i Jeff White goroni'r cyfan.

Mae Aber yn dal i ddisgwyl eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.

Lido Afan 1-0 Y Bala

Gôl Anthony Rawlings wedi 48 munud yn arwain at fuddugoliaeth Lido Afan.

Airbus UK Brychdyn 2-3 Bangor

Chris Budrys a Ryan Wade yn rhwydo i'r tîm cartre' ond tair gôl Chris Simm yn yr hanner cynta'n drawiadol.

Y Drenewydd 1-3 Cei Conna

Shane Sutton yn sgorio i'r Drenewydd wedi 21 o funudau. Jamie Petrie yn sgorio dwy i'r Cei cyn i Rhys Healey setlo'r mater.

Prestatyn 7-1 Caerfyrddin

Crasfa i Gaerfyrddin wrth i Mike Parker sgorio ddwywaith o'r smotyn a dwy gôl yr un i Neil Gibson a Jason Price.

Cafodd Casey Thomas a Rhys Williams o Gaerfyrddin eu hanfon o'r cae.

Y Seintiau Newydd 0-0 Llanelli

Y gêm ddisgôr yn golygu bod Bangor yn lle'r Seintiau Newydd ar frig y tabl.